Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2011

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(33)

 

<AI1>

Gwahoddodd y Llywydd y Cynulliad i sefyll am funud o dawelwch er cof am Gary Speed.

 

</AI1>

<AI2>

13.31

1.   Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI2>

<AI3>

14.28

2.   Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.  Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb yn ysgrifenedig.

 

</AI3>

<AI4>

15.13

3.   Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.  Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.

 

</AI4>

<AI5>

Datganiad gan y Llywydd

 

Cyhoeddodd y Llywydd fod Peter Black a Mohammad Asghar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth.  Caiff Peter Black a Mohammad Asghar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau a Menter yn y drefn honno.

 

</AI5>

<AI6>

16.04

4.   Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI6>

<AI7>

16.15

5.   Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Addysg Uwch

 

 

</AI7>

<AI8>

17.00

6.   Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

 

</AI8>

<AI9>

17.25

7.   Dadl ar Ddiwygio’r PAC


NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU i wrthwynebu ‘gwyrddio’ Colofn 1.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

 

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

 

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.13

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:00 ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2011

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>